- Hyfforddiant a gweithdai clir, hawdd i’w deall
- Cyflwyniad i wneud ffilmiau
- Hyfforddiant ar gyfer addysgwyr
- Hyfforddiant ar raglenni golygu fideo
- Ar gyfer sefydliadau, busnesau, addysg ac unigolion
Bydd fy hyfforddiant yn darparu’r sgiliau a hyder sydd eu hangen arnoch i wneud eich fideos byr eich hun. Rydw i wedi bod yn dysgu gwneud ffilmiau ers dros 25 mlynedd. Gallaf ddangos i chi sut i wneud ffilmiau gyda’ch ffôn symudol, camerâu llonydd neu gamerâu fideo.
Rwyf wedi gweithio gyda phob math o sefydliadau, o fusnesau un person a grwpiau drama ieuenctid i brifysgolion a chorfforaethau rhyngwladol. Rwyf hefyd yn darparu hyfforddiant 1:1 i unigolion.
Byddaf yn cynllunio’r hyfforddiant yn arbennig i gyd-fynd â’ch anghenion penodol, boed yn gyflwyniad dwy awr i’r sylfeini neu’n gwrs manwl dros gyfnod o sawl wythnos.
Ar eich safle
Rwy’n darparu hyfforddiant ar y safle i sefydliadau, ysgolion a busnesau ledled Cymru (ac yng ngweddill y DU a Ewrop).
Ar-lein
Rwy’n darparu ystod o hyfforddiant hyblyg ar-lein i fusnesau, sefydliadau ac unigolion.
Dw i hefyd yn darparu sesiynau ar-lein ar gyfer myfyrwyr ysgol Cynradd ac Uwchradd.
Gwneud ffilmiau gyda ffôn neu iPad
Gallaf eich dysgu i wneud ffilmiau gyda’ch iPhone, iPad neu ddyfais Android.
Os hoffech chi wybod sut y gallaf eich helpu i ddefnyddio ffilm yn eich gwaith, cysylltwch â fi.
Gweithdy gwneud ffilmiau yng Ngŵyl Ffilm Goldeneye, Tbilisi, Georgia.
Sefydliadau
Hyfforddiant gwneud ffilmiau i fusnesau, elusennau, cyrff sector cyhoeddus ac addysg uwch.
Dysgwch sut i wneud fideos byr pwerus ar gyfer hyfforddi staff, hyrwyddo eich sefydliad, rhannu syniadau neu ymgynghori â’ch defnyddwyr.
Defnyddiwch gamerâu a meddalwedd proffesiynol neu iPads/iPhones/ffonau Android.
Ar gyfer ysgolion ac athrawon
- Hyfforddiant ar ddefnyddio ffilm a gwneud ffilmiau, gan gynnwys ffilm a llythrennedd, gwneud ffilmiau mewn Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm, ffilm ac ITM, ffilm ac ysgrifennu creadigol.
- Gweithdai a gweithgareddau cyffrous gan gynnwys gwneud ffilmiau, golygu a chreu traciau sain.
Cynadleddau, seminarau a gwyliau ffilm
- Cyflwyniadau a gweithdai ymarferol ar wneud ffilmiau, iaith ffilm ac addysg ffilm.
Grwpiau ieuenctid a chymunedol
- Gweithdai a phrosiectau gwneud ffilmiau, gydag achrediad dewisol ar brosiectau hirach
- Hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a staff ar sut i gynnal prosiectau ffilm gyda phobl ifanc a chymunedau
- Gweithgareddau gwneud ffilmiau ar gyfer pobl hŷn.
Unigolion
- Hyfforddiant 1:1 wedi addasu i’ch anghenion unigol.
“Mae Tom yn athro arbennig o dda ac yn gallu cyfleu llawer o fanylion technegol heb ddrysu ei gynulleidfa. Argymhellir yn gryf.”
Gillian Southgate, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Y&D GIG Gogledd-orllewin