Ffilm Greadigol mewn Ysgolion

Cover Welsh

Adroddiad newydd yw ‘Ffilm Greadigol Mewn Ysgolion’, sy’n disgrifio project ffilm arloesol mewn ysgolion cynradd yn Ne Cymru.

Mae Ffilm a’r Cyfryngau Digidol yn un o’r pum disgyblaeth sy’n perthyn i faes y Celfyddydau Mynegiannol ar y cwricwlwm newydd. Sut gall plant ysgolion cynradd ddysgu am ffilm a’i defnyddio mewn modd creadigol?

Gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales a’r Sefydliad Ffilm Prydeinig, wnaeth Learnaboutfilm gynnal peilot ar gyfer prosiect sy’n canolbwyntio ar sut i wylio a sut i wneud ffilm.

Bu i ni seilio ein dull o weithio ar Le Cinéma, Cent Ans de Jeunesse (Sinema, 100 Mlynedd o Ieuenctid), rhaglen ryngwladol sydd wedi ei hen sefydlu.

Mae’r adroddiad yn disgrifio’r hyn a ddysgwyd o’r project, ac yn cynnwys cyngor a wneud ffilmio mewn ysgolion. Gallwch ei lawrlwytho yma.

ENGLISH VERSION