Addysg a hyfforddiant
Dw i’n darparu addsyg ffilm a gweithgareddau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer ysgolion, cwmnïau nid er elw, gwyliau ffilm a llen, busnesau ac unigolion.
Pwrpas fy weithdau a hyfforddiant yw darparu dealltwriaeth i sut mae ffilmiau yn cyfathrebu a sut y gallwch chi, eich myfyrwyr, neu’ch cydweithwyr wneud ffilmiau. Dw i’n gweithio gyda phob oedran, o ysgolion cynradd i oedolion. Dyma fideos a wnaed gan bobl sy wedi mynychu fy ngweithdai neu hyfforddiant.
Gweithgareddau ymarferol gwneud ffilmiau
Sesiynau byr golygu, camera neu ‘chromakey’ mewn gwyliau neu ddigwyddiadau eraill
Her ffilm cyflym: cynllunio, saethu a golygu dilyniant ffilm mewn ychydig o oriau
Gweithdai golygu: creu ffilm fer o ddarnau craidd (‘rushes’) wrth ddefnyddio iMovie (Mac/iOS) neu Final Cut
Trac sain: ystyried effeithiau sain mewn ffilmiau, wedyn creu trac sain gwreiddiol gyda Garageband (Mac)
Ffilm, barddoniaeth a montage: creu cerdd ffilm
Projectau gwneud ffilmiau
- cymorth gyda chynllunio
- hyfforddiant ar gyfer athrawon a gweithwyr ieuenctid
- cefnogaeth a mentora
DPP a chyflwyniadau
- deall iaith ffilmiau
- ffilm a sain
- ffilm a llythrennedd
- gwneud ffilmiau ar gyrsiau astudio’r cyfryngau neu ffilm
- montage a chreu ffilmiau heb naratif
- ffilm a gwaith ieuenctid
Hyfforddiant defnyddio meddalwedd
- iMovie (Mac neu iOS)
- Pinnacle Studio (iOS)
- Final Cut Pro
- Creu trac sain gyda Garageband
Ysgrifennu ac ymgynghoru
Dw i wedi ysgrifennu adroddiadau ymchwil ac adnoddau creu ffilmiau ar gyfer Becta, Filmclub, Film: 21st Century Literacy, Asiantaeth Ffilm Cymru ac eraill. Gallwch islwytho canllawiau gwneud ffilmiau mewn ysgolion – ysgrifennais i nhw ar gyfer Into Film, y mudiad newydd sy’n cefnogi addysg ffilm 5-19 ar draws y DU.
Adnoddau
Using Film in Schools (PDF am ddim)
Making Movies Make Sense (canllawiau rhyngweithiol ar wneud ffilmiau – ar gyfer iPad, Mac ac iPhone)
Profiad
Mae gen i mwy na 20 mlynedd o brofiad addysg ffilm. Dwi wedi gweithio gyda neu dros ysgolion, mudiadau nid er elw, a chwmniau yn cynnwys Apple, Asiantaeth Ffilm Cymru, Becta, BFI, C2k Gogledd Iwerddon, Comisiynydd Plant Cymru, Cyrraedd y Nod, EuroMediaLiteracy, Gwyl y Gelli, Plant mewn Amguedfeydd, Llenyddiaeth Cymru, Ysgol Prydeinig Brwsel, Zoom Cymru.
Dw i wedi gweithio ar draws Cymru, yn yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a dw i wedi cyflwyno mewn cynadleddau Ewropeaidd yn Ffrainc, Gogledd Iwerddon a’r Eidal.
Dw i’n gallu darparu fy nghweithdareddau a hyfforddiant i gyd try gyfrwng y Gymraeg. Mae fy Nghymraeg yn rhugl, a dw i hefyd yn siarad Ffrangeg a peth Sbaeneg.