Addysg ffilm a hyfforddiant

ENGLISH
Dw i’n darparu hyfforddiant a gweithgareddau mewn ffilm a gwneud ffilmiau ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a grwpiau ieuenctid, gwyliau ffilm, llythrenned a chelf, elusennau a busnesau.

Ysgolion ac athrawon

  • Hyfforddiant ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd ar sut i ddefnyddio ffilm a gwneud ffilmiau, yn cynnwys ffilm a llythrennedd, Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm, Ieithoedd Tramor Modern ac ysgrifennu creadigol.
  • Gweithgareddau byr, dwys ar gyfer myfyrwyr Cynradd ac Uwchradd yn cynnwys creu ffilmiau, golygu, creu trac sain ac animeiddio.
  • Apps, DVD-ROMs a PDFs .

Grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol

  • Gweithgareddau a phroject gwneud-ffilmiau, yn cynnwys hyfforddiant achrededig Agored Cymru
  • Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid a staff eraill ar sut i gynnal projectau ffilm gyda phobl ifanc a chymunedau

Mudiadau nid er elw, elusennau a busnesau

  • Dysgwch sut i ddefnyddio offer sylfaenol i wneud ffilmiau byr pwerus i hyfforddi staff, hybu’ch mudiadau, rhannau syniadau neu ymghynghori gyda’ch defnyddwyr.
  • Gwnewch ffilm gyda fy nghefnogaeth: chi sy’n dewid faint o’r gwaith technegol i’w wneud.

Cynadleddau, seminarau a gwyliau ffilm, llythrennedd a chelf

  • Cyflwyniadau a gweithdai ymarferol ar wneud ffilmiau, iaith ffilmiau ac addysg ffilmiau

Ymgynghori, ymchwil ac ysgrifennu

  • Dw i wedi gwneud gwaith ymgynghori, ymchwil ac ysgrifennu adnoddau ar gyfer mudiadau yn cynnwys Becta, BFI Education, Filmclub, Film: 21st Century Literacy, Ffilm Cymru Wales ac Into Film.

 

Danfonwch e-bost (mae’r cyfeiriad ar ben y tudalen) neu ffoniwch 029 2009 5900 os ydych am drafod hyfforddiant neu weithgareddau, os gwelwch yn dda.

ENGLISH VERSION

Learn Filmmaking With My Step-by-Step Ebook

Start Making Movies ad Start Making Movies is an easy to understand, 163-page PDF guide that shows you how to start making short films and videos. It uses clear explanations and hundreds of illustrations to introduce equipment, the filmmaking process, film language and film storytelling.

“A great visual primer...Highly recommended” (Peter, UK)
“This book is amazing” (Tiffany, USA)



Leave a Comment