Dw i’n darparu hyfforddiant a gweithgareddau addysg ffilm a gwneud ffilmiau ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a grwpiau ieuenctid, gwyliau ffilm, llythrenned a chelf, elusennau a busnesau.
Ysgolion ac athrawon
- Hyfforddiant ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd ar sut i ddefnyddio ffilm a gwneud ffilmiau, yn cynnwys ffilm a llythrennedd, Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm, Ieithoedd Tramor Modern ac ysgrifennu creadigol.
- Gweithgareddau byr, dwys ar gyfer myfyrwyr Cynradd ac Uwchradd yn cynnwys creu ffilmiau, golygu, creu trac sain ac animeiddio.
- Apps, DVD-ROMs a PDFs .
Grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol
- Gweithgareddau a phroject gwneud-ffilmiau, yn cynnwys hyfforddiant achrededig Agored Cymru
- Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid a staff eraill ar sut i gynnal projectau ffilm gyda phobl ifanc a chymunedau
Mudiadau nid er elw, elusennau a busnesau
- Dysgwch sut i ddefnyddio offer sylfaenol i wneud ffilmiau byr pwerus i hyfforddi staff, hybu’ch mudiadau, rhannau syniadau neu ymghynghori gyda’ch defnyddwyr.
- Gwnewch ffilm gyda fy nghefnogaeth: chi sy’n dewid faint o’r gwaith technegol i’w wneud.
Cynadleddau, seminarau a gwyliau ffilm, llythrennedd a chelf
- Cyflwyniadau a gweithdai ymarferol ar wneud ffilmiau, iaith ffilmiau ac addysg ffilmiau
Ymgynghori, ymchwil ac ysgrifennu
- Dw i wedi gwneud gwaith ymgynghori, ymchwil ac ysgrifennu adnoddau ar gyfer mudiadau yn cynnwys Becta, BFI Education, Filmclub, Film: 21st Century Literacy, Ffilm Cymru Wales ac Into Film.